Hyrwyddo Cydraddoldeb a Mynd i’r Afael â Hiliaeth mewn Ysgolion

Disgrifiad o’r Cwrs

Gyda’r cynnydd mewn digwyddiadau hiliol mewn ysgolion, dyluniwyd y rhaglen hyfforddi ryngweithiol a gafaelgar hon i feithrin eich hyder a’ch sgiliau mewn adnabod hiliaeth ac ymateb mewn modd priodol mewn lleoliadau ysgol.

Erbyn diwedd y cwrs hwn:

  • Bydd gennych fwy o ddealltwriaeth ynghylch sut i adnabod hiliaeth
  • Bydd gennych fwy o sgiliau i ymateb i ddigwyddiadau hiliol
  • Bydd gennych fwy o ddealltwriaeth o’r derminoleg briodol
  • Byddwch yn fwy ymwybodol o’r angen am arferion gwrth-hiliaeth
  • Byddwch yn deall yr angen i adlewyrchu’n feirniadol ar ragfarnau personol ac arferion proffesiynol
  • Byddwch yn ymwybodol o’r angen am gwricwlwm/ethos ysgol sy’n gadarnhaol yn ddiwylliannol ar gyfer pob disgybl

Cliciwch ar y modiwl cyntaf isod i ddechrau arni!

 

0